gwennanelin

Dez. 12

Das Elsass ist ein von der Natur begnadetes, prosperierendes und vielseitiges Land. Aber seine Persönlichkeit ist tief geprägt von seiner Geographie, seiner Geschichte und seiner sprachlichen und kulturellen Besonderheit.“[1]

Aus dieser Aussage ergeben sich grundlegende Fragestellungen: In wie weit kann das Elsass, eine Region Frankreichs, ein tief geprägtes Selbstverständnis bestätigen, dessen Kultur ein Konglomerat der französischen und deutschen Welt ist? Ist es überhaupt möglich, Franzose und Deutscher zugleich zu sein? In dieser Arbeit wird die elsässische Identität in den Mittelpunkt gestellt und es soll gezeigt werden, dass das Elsass seine Besonderheit der geographischen Lage, der wechselvollen Geschichte und der sprachlichen Individualität verdankt.

Ausgehend davon sollen die Schwierigkeiten bei der Erhaltung der elsässischen Identität berűcksichtigt werden und die Auswirkungen der neueren historischen Ereignisse auf das Selbstbewusstsein der Elsässer. In der Arbeit möchte ich mich mit dem elsässischen Schriftsteller René Schickele beschäftigen, dessen deutsch-französischen Heimatbild heute als exemplarisch fűr Europa betrachtet wird.

In dieser Hinsicht soll die gegenwartige Situation des Elsass angesichts der Europäischen Gemeinschaft und der deutsch–französischen Zusammenarbeit seit dem Jahr 1963 geschildert werden.  Zum Schluss wird sich die Frage stellen, ob das Elsass noch eine sprachliche und kulturelle Zukunft hat und ob es im heutigen Europa seine Ausnahmestellung weiterhin bewahren können wird.

 

Weiterlesen

Nov. 28
Das Elsässische Selbstverständnis - Hunaniaeth Alsás

"Langue des humbles ? Langue des enfermés ? Langue moribonde ? Non. Langue vivante. Langue en liberté. Langue buissonnière, nonchalante et têtue, rugueuse et douce, aux effets d’étrangeté. Langue d’amour à qui fut donnée la grâce de ne s’écrire qu’en poésie. Ecoutez sa musique défier les grandes…"

-

André Weckmann. Awdur a Bardd o Alsas

http://www.voixpointcomme.fr/site/wp-content/uploads/2013/10/projet_Weckmann_diff.pdf

Nov. 28
Tir gun chanan, tir gun anam 
Nov. 20

Tir gun chanan, tir gun anam 

Dans un contexte de super-diversité[1] et de revendications d’autonomie au pays de Galles, la nature d’une citoyenneté nationale au sein de la Grande Bretagne reste un enjeu controversé.[2] Suite au dernier recensement britannique de 2012, dont les résultats révèlent une forte augmentation du nombre d’immigrants au pays de Galles et une baisse du nombre de galloisants, surtout dans les bastions de la langue, l’avenir de la langue nationale galloise suscite des inquiétudes.

Ma recherche examinera le lien entre l’apprentissage du gallois comme langue seconde et l’intégration des immigrants au pays de Galles afin d’évaluer dans quelle mesure l’apprentissage d’une langue nationale minoritaire peut faciliter la cohésion nationale et une citoyenneté interculturelle.

Les travaux de recherche au Québec serviront à y identifier les meilleures pratiques qui sont à la base du succès des programmes de francisation dans la province. Il sera alors possible de proposer une stratégie cohérente et adaptée au programme cymreigio[3] ainsi qu’aux nouveaux arrivants dans les centres d’apprentissage du gallois pour adultes au pays de Galles.

À travers d‘une série d’entretiens avec des chercheurs et professeurs en intégration linguistique des immigrants ainsi que des élèves adultes de francisation, j’examinerai dans quelle mesure l’apprentissage du français véhicule le sentiment d’intégration civique permettant de se « se sentir chez soi ».  La recherche permettra également de questionner le rôle que jouent les centres d’apprentissage du français et plus généralement la société d’accueil, dans le développement de la citoyenneté québécoise et l’attachement intégratif des immigrants au français.



[1] Cantle, Ted. 2012. Interculturalism: the new era of diversity and cohesion. Basingstoke: Palgrave Macmillan.

[2] Brooks, Simon. 2009. The Rhetoric of civic ‘inclusivity’ and the Welsh language: Contemporary Wales 22

[3] L’équivalent gallois de ‘la francisation’.

Nov. 13
Apprendre le gallois aux immigrants adultes au pays de Galles; voie vers une citoyenneté interculturelle.

Cenedl Heb Iaith, Cenedl Heb Galon?;

Festival Interceltique  v  yr Eisteddfod

 image

Trafodaethau gyda’r bardd Aneirin Karadog a’r cerflunydd David Petersen

 

TRAFODAETH 1

Gwennan: I rywun sy ddim yn gyfarwydd â’r Festival Interceltique de Lorient, beth yn union yw’r ŵyl hon?

 

Aneirin: Mae Gŵyl Ryng-Geltaidd an Oriant yn Ne Llydaw yn dod â gwledydd Celtaidd ynghyd i rannu eu diwylliant trwy gerddoriaeth yn bennaf. Un o’r uchafbwyntiau yw gorymdaith y bagadou – y bandiau pibgyrn – trwy ganol tref an Oriant i’r stadiwm pêl-droed, Stade de Mouchoir. Math o Eisteddfod y bandiau pibgyrn yw hi felly. Mae yna wlad wadd bob blwyddyn ac Asturias, yng Ngogledd Sbaen, yw’r wlad wadd eleni.

 

Gwennan: Mae’r Eisteddfod yn llawer hŷn na’r Ŵyl Ryng-Geltaidd. Pa ŵyl sydd â mwy o statws rhyngwladol?

 

Aneirin: Mae’r Ŵyl Ryng-Geltaidd yn denu llawer mwy o bobl, a’r rheini o dros y byd ar lawer cyfrif. Dwedwn i fod mwy o statws rhyngwladol gyda’r ŵyl honno ond mae hynafiaeth a natur unigryw uniaith a theithiol yr Eisteddfod yn rhoi apêl wahanol. Fel llawer o ddiwylliannau lleiafrifol, mae gan bawb obsesiwn o feddwl am ffigyrau gwylio a gwrando uchel neu fynychder digwyddiadau. Y ffaith eu bod nhw’n dal i barhau ac i fodoli yw eu llwyddiant nhw.

 

Gwennan: Er gwaethaf apêl ryngwladol Gŵyl an Oriant, a ydynt yn llwyddo i ddenu trigolion lleol Llydaw?

 

Aneirin: Mae trigolion Llydaw yn gwybod amdani ond nid o reidrwydd yn mynd iddi. Mae wncl gennyf sy’n bencampwr ar y bombard ond nid yw e’n mynd yno bob blwyddyn. Mae ymwybyddiaeth fawr gan yr ymwelwyr o’r diwylliant Llydewig – wel, cerddoriaeth Lydewig o leiaf. Mae’r Llydäwyr yn ymwybodol o’r ŵyl fel y mae’r rhan fwyaf yng Nghymru yn gwybod am yr Eisteddfod, byddai dyn yn gobeithio!

 

Gwennan: Ffactorau economaidd sy’n gyrru’r ŵyl a’r diwylliant Llydewig o’r hyn wy’n ei ddeall.

 

Aneirin: Ie, yn sicr, er mwyn cadw pobl an Oriant yn hapus mae’n rhaid dangos bod yna fudd economaidd i’r dre. Ond fyddi di ddim yn meddwl am y budd economaidd tra bod ti yno. Byddi di’n sylwi ar yr ieithoedd a’r acenion gwahanol dros y byd – falle taw acenion Canada a Sbaen y clywi di. Yn bersonol, dyw’r elfen economaidd ddim mor bwysig – gallant gyfri’r ceiniogau ond faint o siaradwyr Llydewig maen nhw’n gallu cyfri yn ei sgil?

 

Gwennan: A gellid dweud yr un peth am gerddoriaeth Lydewig ar draul yr iaith Lydewig?

 

Aneirin: Mae peryg y gellid dweud “dyn ni’n dal i chware’n bombards felly mae’r diwylliant Llydewig yn fyw”. Mae nifer yn canu geiriau Llydewig sy ddim yn siarad Llydaweg bellach a fel mae’r dywediad yn mynd Hep Brezhoneg, Breizh ebet – Heb Lydaweg, Mae’r Lydaweg yn marw.

Gwennan: Mewn ffordd, maen nhw’n dweud “Heb economi, heb ddiwylliant”.

 

Aneirin: Ydyn, mae’n mynd yn agosach at sefyllfa Iwerddon lle mae gyda chi Guinness, telynau a’r bodhrán ynghyd ag ymwybyddiaeth o beth yw e i fod yn Wyddel yn America ond heb yr Wyddeleg, sy’n sefyllfa drist ofnadwy, on’d yw hi?

 

Gwennan: Ydy – beth yw pwynt Celtigrwydd heb yr iaith?

 

Aneirin: Yn union, Ffrancwyr yn chwarae’r bombard ydyn nhw fel arall. Ond mae ‘da fi deimlad bod Llydäwyr yn hapus fel yna. Yn Ffrainc, mae gyda chi sefyllfa les regions et les langues regionales, nage hyd yn oed langues minoritaires – ardaloedd rhanbarthol o Ffrainc ydynt.

 

Gwennan: Mae’r la Republique Française wedi gwarafun unrhyw statws i’r Llydaweg, ond falle bod yna fodlonrwydd gyda’u sefyllfa erbyn hyn.

 

Aneirin: Oes, wedyn mae ‘na ryw agwedd “os nad ydyn ni’n siarad Llydaweg, o leiaf bod gyda ni ein cerddoriaeth”. Ond mae cymaint mwy yn cael ei golli trwy Iaith, nag o’s e? Wrth fynd i Lydaw, mae ‘na beryg y gallech fynd heb glywed yr iaith o gwbl. Mae ymwybyddiaeth ’da fi bod y nifer mwyaf o siaradwyr Llydaweg dros eu chwedegau. Dim ond fy mam a symudodd i Gymru a siaradodd Lydaweg gyda’i phlant. Mae ‘na genhedlaeth goll enfawr yn Llydaw. Y peryg yw taw’r unig beth sydd ar ôl yw’r bombard a’r biniou.

 

Gwennan: Dyw’r Llydäwyr ddim i weld â’r un ymwybyddiaeth neu gariad at iaith…

 

Aneirin: Wel, pan o’n i yn yr Ŵyl yn 2008, roedd ffỳs mawr ohona i oherwydd ‘mod i’n gallu siarad Llydaweg a ‘mod i’n rapio a rhyw lol fel ‘na. Ond does dim rheol iaith yng Ngŵyl an Oriant. Er bod ymdrech i gyfieithu popeth i’r Llydaweg – Ffrangeg, Saesneg a Sbaeneg yw ieithoedd yr ŵyl. Pam nad yw’r Gymraeg, y Wyddeleg a’r Aeleg yn ieithoedd swyddogol? Mae’r gwrthwneud yr holl bwynt.

 

Gwennan: Pam nad yw’r Cymry’n ymddiddori mwy yn yr Ŵyl?

 

Aneirin: I ddechrau, mae’r Ŵyl yr un pryd â’r Eisteddfod. Byddai nifer o bobl sy’ moyn bod yno ddim yn mynd gan mai’r dathliad cenedlaethol blynyddol uniaith Gymraeg sydd yn cymryd blaenoriaeth. Beth sy’ angen yng Ngŵyl an Oriant yw’r un teimlad o fod yn wythnos yr Eisteddfod, lle mae dy enaid di wedi ail-jarjio ei fatri a ti’n gadael swigen yr Eisteddfod yn llawn ysbrydoliaeth (er hefyd iselder eto ar ôl i ti fynd nôl i dy ran di o Gymru!). Chei di ddim o’r un teimlad yng Ngŵyl an Oriant ond fe gei di amser da, os nad amser gwyllt. Cei di glywed grwpiau modern sy’n cyfuno hen draddodiadau Celtaidd. Ond mae’n beryg ei fod e’n amgueddfa flynyddol yn hytrach na Gŵyl.

Gwennan: Ydy Asturias, rhanbarth gogledd Sbaen, yn aelod teilwng o’r byd Celtaidd?

 

Aneirin: Mae ganddynt iaith Geltaidd sy’n debyg i’r Galisieg yng Nghalisia ac mae brawdoliaeth Geltaidd yna yn sicr. Ond mae perthyn i’r clwb Celtaidd fel yr Undeb Ewropeaidd yn y 1970au, lle’r oedd pawb moyn bod yn rhan o’r farchnad gyffredin. Mae’r byd Celtaidd yn apelio at Asturias a Galicia wrth iddyn nhw drio ymbellhau o ganolbwynt Madrid. Ond os dych chi’n burydd allech chi ddim gwadu bod ‘na chwe gwlad Geltaidd yng nghrombil y peth. Roed Awstralia yn wlad gwadd un flwyddyn sy’n werthinllyd, er yn gwneud synnwyr o ran y cymunedau Gwyddelig ayyb. Ond ai ffordd o farchnata yw e wedyn? Maen nhw’n ychwanegu ar hwyl a lliw Gŵyl An Oriant ond wedi tynnu oddi ar y pwyslais ar iaith fyw yno.

 

Gwennan: Beth am y Cymry – ydyn nhw’n hoff o’r syniad eu bod yn Geltiaid?

 

Aneirin: Tra bod yr Astwrianwyr eisiau bod yn Geltiaid, dwy’r Cymry ddim yn ystyried bod yr Eisteddfod yn ŵyl Geltaidd, hyd yn oed y Cymry Cymraeg. Mae gyda chi Celtic Scaffolding, Celtic Inn a Celtic hyn a’r llall, felly mae’n siwtio weithiau. I’r Cymry, mae Celtigrwydd yn golygu pibgyrn a chroen gafr. Mae’n ffordd o grwpio ni gyd gyda’n gilydd mewn ffordd sarhaus, fel Iddewon y byd Eingl-Americanaidd. Mae eisiau i’r Cymry sylweddoli bod ein hiaith ni’n Geltaidd a bod eisiau inni rannu syniadau gyda’n brodyr Celtaidd a chodi ymwybyddiaeth achos mae’r hyn sy’ gyda ni fel gwledydd Celtaidd yn brysur yn cael eu colli.

 

Gwennan: A fyddai’n syniad atynnu’n cymdogion Celtaidd i’r Eisteddfod? Sut mae gwneud hynny?

 

Aneirin: Byddai. Cafodd yr Eisteddfod wared ar seremoni Eisteddfod y Byd ar gyfer y Cymry ar wasgar. Mae rhyw fân gynrychiolaeth bellach o orseddau’r gwledydd Celtaidd cyn y coroni neu rywbeth. Yn Llandŵ llynedd, daeth haid o Hwngariaid oherwydd y cyswllt gyda cherdd enwog A Walesi Bardok. Mae ‘na ryfeddodau fel ’na yn bodoli, bod yna gerdd genedlaethol i’w chael yn Hwngari sy’n ymhyfrydu ym meirdd Cymry. Pam nad yn ni’n estyn mas felly at feirdd gwledydd eraill? Dyn ni’n cyfieithu ein gwaith i’r Saesneg i’w gyfleu i’r Saeson ond dyn nhw ddim yn mynd i’w cymryd o ddifri ta beth! Falle bod angen inni rannu’n gwaith gyda’r gwledydd Celtaidd. Falle bod yna le i wahodd ieithoedd lleiafrifol Ewrop gyda’r ymwybyddiaeth “Sgwlwch, mae’r ŵyl hon yn uniaith Gymraeg ac felly cewch chi gyfieithydd Catalaneg a Chymraeg i’ch tywys chi o gwmpas”. Os yw Llywodraeth Cymru am fod mor hunanbwysig yn barnu’r Eisteddfod i gael gwerth eu harian nhw, yna pam nad ydyn nhw’n denu cynrychiolaeth o Gatalonia neu Wlad y Basg ymysg y nifer o leiafrifoedd ieithyddol eraill y byd i ddod draw bob blwyddyn, i ni gael rhannu, ymhyfrydu a dysgu o’n gilydd.

 

Gwennan: Ydy’n bosib apelio at y Cymry di-Gymraeg felly?

 

Aneirin: Ydy, ond rhaid cadw rheol sanctaidd yr iaith. Mae hynny’n golygu dim dwyieithrwydd ar y maes. Mae hynny’n dwp yng Nghymru – mewn cymunedau uniaith Cymraeg yn honni, er mwyn cael arian, fod angen cael arwyddion dwyieithog. Yr Eisteddfod yw’r unig fro Gymraeg sy’n bodoli mewn gwirionedd. Nid pwynt yr Eisteddfod yw denu’r di-Gymraeg. Y neges yw “mae’n ŵyl sy’n perthyn i chi ond yr unig gam wedyn, fel person sy ddim yn siarad Cymraeg, yw dysgu’r iaith.”

 

Gwennan: Er nad ydynt yn trafod yr iaith yn adolygiad y Llywodraeth, mae materion y Gymraeg reit yng nghanol y peth. 

 

Aneirin: Maen nhw’n trafod yr iaith wrth sôn am ganoli. Stopio teithio yw’r cam cyntaf, wedi ei chanoli hi i un lle ac wedyn yn y pen draw gweld nad oes neb yn dod rhagor…wedyn daw Saesneg i mewn i’r ŵyl hefyd, dybiwn i. Llithrig yw’r llwybr yna.

 

Gwennan: Oes unrhyw wersi y gall yr Eisteddfod ddysgu o Ŵyl an Oriant?

 

Aneirin: Wy ddim yn teimlo bod llawer y gall yr Eisteddfod ddysgu oddi wrth y ŵyl – maen nhw’n ddau fwystfil gwahanol. I fi, does dim boddhad i’r enaid tebyg fel mynd i’r Eisteddfod – er i nifer o bobl, does dim byd gwaeth yn y byd! Wrth gwrs, nid hynny sy’n eich diffinio chi fel Cymro chwaith! Mae yna Gymry Cymraeg pybyr iawn sy’n casáu’r Eisteddfod. Ond, peidied meiddio cyffwrdd â’r rheol iaith – ac estyniad ar y rheol iaith yw’r ffaith ein bod ni’n teithio. Dyw e ddim yn rhyfedd chwaith i weld aelodau o leiafrifoedd ethnig yn yr Eisteddfod yn siarad Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn iaith i bawb, fel y mae’r Eisteddfod i bawb hefyd.

 

image

 

TRAFODAETH 2

 

David: Mae cymaint y gall yr Eisteddfod ddysgu oddi wrth y Ŵyl Ryng-Geltaidd an Oriant! Wy wedi rhoi fy holl mywyd i waith Gŵyl an Oriant ond helpu’r Eisteddfod yr hoffwn wneud mewn gwirionedd! Ydy 250,000 o bobl wir yn llwyddiant? Rhai blynyddoedd yn ôl daeth cynrychiolwyr Eisteddfod Llangollen i Ŵyl an Oriant ond doedd dim clem ‘da nhw beth oedd yr holl ffys i gyd!

 

Gwennan: Pam nad o’n nhw’n deall pwrpas Gŵyl an Oriant?

 

David: Yn hanfod y peth, mae nifer yn gwadu bod y Celtiaid yn bodoli. Er ei bod yn gwbl amlwg fod y bobl o’r oes haearn yn siarad iaith Geltaidd ac yn creu celf Geltaidd! Ond nid yw pobl yn hoffi meddwl amdanom ni fel yr Hen Frythoniaid! Yn anffodus mae gormod o feddylfryd Seisnigaidd ac Eingl-Americanaidd yn ein diwylliant ac yn ein prifysgolion, hyd yn oed. Gofynnais farn Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru am yr Ŵyl Ryng-geltaidd. Fe ddywedodd i’m hwyneb bod yr ŵyl yn “anachroniaeth 2000 o flynyddoedd oed mewn gwisg ffansi – does dim lle iddo yng Nghymru fodern”.

 

Gwennan: Beth fyddai Dai Smith yn ddweud am yr Eisteddfod felly?

 

David: Mae e wedi dysgu Cymraeg. Tybiaf y byddai’n iawn gyda syniad yr Eisteddfod. Mae mwy o ddiddordeb gyda fi mewn mynegiadau, teimladau a dathliadau cynhenid o ddiwylliant traddodiadol. Wy’n grediniol bod angen canolbwyntio ar wreiddiau diwylliant yn y gymdeithas. Wy’n anghytuno gyda phobl yn manteisio ar ddiwylliant o ben cymdeithas i lawr. Beth sy’ gyda ni yng Nghymru felly yw pobl yn hyrwyddo diwylliant di-nod a heb wreiddiau!

 

Gwennan: Tybiwn fod y Cymry Cymraeg yn teimlo mai trwy gyfrwng iaith y mynegir diwylliant.

 

David: Wrth gwrs eu bod nhw’n dweud hynny! Dros y blynyddoedd mae rhai wedi fy nghyhuddo o beidio gallu siarad Cymraeg. “Sut dych chi’n gallu deall Cymru heb yr iaith?” maen nhw’n ei ddweud. Wrth gwrs, rwy’n difaru peidio gallu siarad yr iaith yn rhugl ond mae fy mywyd, fy meddwl a fy egni i gyd yn mynd at hyrwyddo Cymru i’r byd. “Dysga’r iaith, ac yna dere ‘nôl aton ni” mae eraill yn dweud. Y gwir yw, mae’n rhaid imi barhau gyda’r hyn dwi’n ei wneud. Sdim lliw i’r cyhuddiadau ‘na.

 

Gwennan: Beth mae’r Ŵyl Ryng-geltaidd yn gwneud dros yr ieithoedd Celtaidd?

 

David: Dim. Mae pob elfen o ddiwylliant yn cael ei hystyried, hyd at fwyd Llydewig – heblaw am yr iaith. Sdim amheuaeth bod y Llydäwyr yn genfigennus o’r Cymry a’u hiaith – “Sut maen nhw wedi llwyddo i gadw’r iaith?” meddan nhw. Yn bersonol, wy’n teimlo ein bod ni wedi ‘’llwyddo” ar draul ein diwylliant. Mae hynny’n bris rhy uchel yn fy marn i. Peidied fy nghamddeall. Sdim gronyn ohonof yn erbyn yr iaith. Ond ti’n gwybod mai Cymru yw’r unig genedl heb Oriel genedlaethol!

 

Gwennan: Dych chi’n dweud felly, pe byddai yna ddewis rhwng iaith a diwylliant, diwylliant sy mwyaf pwysig?

 

David: Ydw, byddai’n rhaid imi ddewis diwylliant.

 

Gwennan: Beth dych chi’n meddwl felly am ddywediadau megis “Calon heb iaith, calon heb genedl”?

 

David: Dyn nhw ddim yn fy nabod i felly. Byddwn yn aberthu fy mywyd dros Gymru ac mi fyddwn yn ei wneud yn y lle mwyaf cyhoeddus pe byddai angen. Dw i’n credu mod i’n nabod y ‘Llydäwr’ cyffredin yn ddigon da er mwyn gallu dweud eu bod nhw mwy na lai wedi rhoi’r gorau i geisio achub yr iaith. Ond mae’r union bobl yma – er eu bod yn gweld colled iaith yn druenus – yn dweud “wy’n chwarae bombard, wy’n mynd i’r Fest Noz bob yn ail wythnos a wy’n mynd i Asturias ac yn dwli ar sŵn y Gaita ayyb”. I ateb yr hyn wy’n meddwl rwyt ti’n ei gwestiynu, dwedwn i fod y ‘Llydäwr cyffredin’ mewn cysylltiad mwy dwfn â diwylliant Llydewig o ddydd i ddydd na’r ‘Cymro cyffredin’. Y gwir yw na fyddai’r Cymro cyffredin, hyd yn oed y Cymro Cymraeg, yn gwybod am draddodiadau hanfodol Cymreig megis y Plygain, y Gymanfa Blwmp, y Mari Lwyd a dawnsio stepio. Nid yw’n ddigon i allu siarad Cymraeg yn unig – mae angen dysgu am hanes Cymru. Mae problem gyda’n hysgolion hefyd. Mae isie tynnu’u pennau mas o ben ôl America a Lloegr!

 

Gwennan: Oes awgrymiadau gennych chi am ddatblygiad yr Eisteddfod gyda golwg ar Ŵyl an Oriant?

 

David: Yn gyntaf, mae angen agwedd agored. Mae angen edrych tu fas i Gymru. Yn ail, wy’n credu bod angen ystyriaeth go iawn ar hyrwyddo diwylliant Cymreig. Os cofiaf yn iawn, rhyw bum mlynedd yn ôl, apeliodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod ar bobl ifanc i gael gwared â’r wisg draddodiadol Gymreig. Dewch yn eich jîns a bihafiwch fel Americanwyr yw’r neges felly! Nawr, nid yw Gŵyl An Oriant yn anachroniaeth 2000 o flynyddoedd oed mewn gwisg ffansi – mae a wnelo â hunaniaeth ddiwylliannol.  Mae symbolau ac eiconau yn bwysig, a pham nad ydyn nhw’n datblygu’r wisg Gymreig i’r oes fodern? Ein gwisg ni ydyw, wedi’r cwbl. Mae yna fwynglawdd o aur yn ein diwylliant gweledol, tapestri, cwiltiau, celf ayyb. Dylai pobl ifanc ymfalchïo yn eu gwisg nhw. Peth arall fyddai rhoi mwy o gefnogaeth i ddawns Gymreig a chomisiynu cyfansoddwyr Cymreig i sgwennu symffoni ar gyfer y prif lwyfan yn hytrach na chwarae Bach a Beethoven, er mor dda ydynt. Beth am gomisiynu Opera Cymraeg go iawn? Onid llwyfan cerddoriaeth Cymreig yw’r Eisteddfod? Na, mae’n well ganddynt hyrwyddo cerddoriaeth America trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg!

 

Gwennan: A fyddai presenoldeb cryfach o ddiwylliant traddodiadol a chyfoes Cymru yn gwneud yr Eisteddfod yn fwy apelgar i’r Cymry ac i gynulleidfa ryngwladol?

 

David: Byddai’n cael effaith enfawr. O’r 750,000 o ymwelwyr i An Oriant, mae 100,000 o rheini yn Llydäwyr, mae’r gweddill yn Wyddelod, Albanwyr, Canadiaid, Almaenwyr, Rwsiaid ac ati. Maen nhw’n dod i brofi diwylliant byw. Mae’n awyrgylch mor gyffrous, a’r dalent mor anhygoel 

 

Gwennan: Ond nid gŵyl i’r Llydäwyr ydyw, os oes mwy o ymwelwyr tu fas i Lydaw.

 

David: Paid â’m camddeall i, mae’r Llydäwyr yn dal eu tir. Mae’r Fest Noz bob nos o 8 y nos tan 8 y bore yn arwydd o hyn. Mae’n brofiad unigryw Llydewig - pe byddet ti wedi bod i’r ŵyl, fyddet ti ddim wedi gofyn y cwestiwn! A beth am fwyd Cymreig? Sa i’n meddwl gosod stondin pice ar y maen yn unig ond gwir goginio Cymreig ar y maes. A beth am gelf Gymreig? Diwedd ar ddynwared yr hen Brit Art neu beth sy’ en vogue ar y cyfandir. Pam ŷn ni’n ceisio bod fel Damien Hirst?

 

Gwennan: Dych chi’n mynd i’r Babell Gelf?

 

David: Ydw, rwy’n mynd â chwdyn chwydu gyda fi. Mae ceisio dynwared diwylliant sy’n estron i ni. Mae yna eithriadau wrth gwrs. Wy wedi bod yn feirniad ac yn arddangoswr yn yr Eisteddfod. Mae llawer o drefnu yn mynd ymlaen yn y pwyllgorau niferus ond wy’n amau bod llawer o feddwl dwys yno. Mae’n fy rhyfeddu i nad ydw i’n teimlo bod yr Eisteddfod yn dathlu Cymru er mai dyma brif lwyfan i ddathlu Cymru a Chymreictod. Wy’n ei gweld fel rhyw fath o ŵyl rhwydweithio ymysg y rhai sy’n mynd dro ar ôl tro. Maen nhw’n gyfforddus fel hynny. Pa mor aml y gwelir gwir greadigrwydd yno? Pa mor aml y gwelir gweithiau celf arloesol a dadleuol? Y tro diwethaf imi gofio gweld rhywbeth arloesol oedd gan Paul Davies yn darlunio dyn yn cario croes bren fel Crist ar Gethsamane i ddynodi’r Welsh Not yn cael ei gario trwy’r mwd. Yn anffodus rwtsh wy’n ei weld yno ar y cyfan. Wrth gwrs, nid y beirniaid na’r cystadleuwyr sydd ar eu colled ond y Sefydliad a Chymru ei hun.

 

Gwennan: Ond beth am greadigrwydd yn y maes llenyddol?

 

David: Mae creadigrwydd llenyddol yn yr Eisteddfod yn wahanol ac yn dal ei dir. Ond mae grym mwy tu ôl i hyn sydd ddim yn caniatáu inni hyrwyddo’n diwylliant ein hun. “Cewch chi ddiwylliant, meddan nhw, ond nid diwylliant cynhenid Cymreig”. “Cewch chi eich iaith hyd yn oed, ond nid diwylliant unigryw eich cenedl.” Cofia, mae’r rheol uniaith Gymraeg yn bwysig a byddai ymwelwyr yn disgwyl hynny.

 

Gwennan: Beth am y syniad o ganoli’r Eisteddfod?

 

David: Dw i’n credu bod yr elfen deithiol yn hynod bwysig ac yn golygu bod cymunedau yn gallu cyfrannu at yr ŵyl. Mae’n rhoi pwysau ar bob ardal a thrwy hynny yn dangos natur deyrngarol a hael y Cymry. Yn amlwg byddai budd mawr i un lleoliad pe bai’r ŵyl yn aros yn yr un lle, fel y ceir yn an Oriant, ond mae’r syniad o Eisteddfod deithiol ‘romani’ yn ennill yn y tymor hir, wy’n meddwl. Ond cofia, dyw e ddim yn ddigon i fachan o Gricieth ddweud “wy’n siarad Cymraeg, felly wy’n gwneud fy rhan i dros Gymru” tra bod Mrs Jones o Dyddewi sy’n mynd i’r pwyllgorau yn rheolaidd am 4 mlynedd yn gweithio’n lawer galetach. Beth sy’n bwysig i fi yw arwyddion gweledol ein diwylliant ni ond nid wy’n gweld hynny’n yn yr Eisteddfod ac mae hynny’n fy mhoeni i! Gwranda ar eiriau Daniel Corkery yn ‘Hidden Ireland’ – onid yw hwn yn siarad am Gymru?!

 

“Mae erthygl gyntaf Credo’r Oruchafiaeth yn datgan mai tras israddol yw’r brodorion ac mae unrhyw beth sydd yn eiddo iddynt (heblaw am eu tir a’u haur) o werth pitw.[…] Gydag amser mae’r brodorion yn cael eu llygru gan yr athrawiaethau hyn ac yn eu croesawu’n frwd wrth i gelwyddau’r Oruchafiaeth gael eu hadleisio o ryw fangre pell, fe pe bai gwirionedd a thegwch wedi’u datgan o’r diwedd.”


Aug. 17
Hep Brezhoneg, Breizh ebet?
Aug. 13

Gwyl An Oriant / Festival Interceltique 2013